kywydd y klo
1 klo a roet ar ddrws y ty
2 klaf wyf o serch klyw vyvy
3 dyret yth welet wiwlvn
4 er duw hael erot dy hvn
5 geirffvg verch pam y gorffei
6 gorffwyll myn meir a beir bei
7 taraw om annwyt dyrys
8 tair ysponk torres y bys
9 kloedic vn kleu ydoedd
10 ai klywech chwi sein cloch oedd
11 morvudd vynghreir ddiweirbwyll
12 mammaeth tywyssogaeth twyll
13 ymwyl am y wialen
14 a thi reit ym weiddi wenn
15 tosturia wrth anhvnglwyf
16 tywell yw /r/ nos twyllwr nwyf
17 [12v] atnabydd vlinet vynrho
18 wb or hin or wybr heno
19 aml yw rreydr or bargawt
20 ermig y nwyf ar meu gnawt
21 nit mwy y glaw nevt meu glwyf
22 nor ot danaw yr ytwyf
23 nit esmwyth hynn o dysmwy
24 ni bv boen ar varwgroen vwy
25 noc a geveis drwy oval
26 ym gwr am gwnaeth nid gwaeth gwal
27 ni bu ny gaer yn arvon
28 geol waeth nor heol honn
29 ni byddwn allan hyt nos
30 ni thuchwn ond oth achos
31 ni ddown i oddef od gwnn
32 bevnoeth gvr bennath garwnn
33 ni byddwn dan law ag ot
34 enyt awr onit erot
35 ni vaddevwn gwnn gyni
36 y byt oll oni bei di
37 yma yddwyf trwy annwyt
38 teu ddawn yn y ty yddwyt
39 [13r] a minnev vydd gan amhirglyw
40 ymma vy eur ymi vyw
43 ymmeith vymeddwl nit a
44 ammwyll am peris ymma
45 ammot a thi a wneddwyt
46 ymma yddwyf a mae ddwyt
dd' ap glm'
Darlleniadau Amrywiol
Ymddengys y varia yn inc Vetustus
4 aro
7 drwy
9 pand
20 ermig (y) nwyf ar [y] meu gnawt
32 benath
40 + yna y mae fenaid glan
am ellyll ymma allan